Cwestiynu Popeth!
«Wyt ti’n un sy’n cwestiynu popeth? Mae’n wir bod ein byd ni yn ddrysfa o wybodaeth – gwybodaeth gywir ac anghywir, yn newyddion go iawn, ac yn newyddion ffug. Mae cymaint o ffyrdd gwahanol o ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnon ni. Mae’r gyfrol liwgar hon yn ein cyflwyno i sgiliau ymchwil – gan roi cyfle i ni ddod o hyd i’n ffordd drwy’r ddrysfa o wybodaeth gan ddarganfod ffeithiau gwir a chytbwys drosom ein hunain. Wrth fynd drwy’r gyfrol fer hon rydym yn dysgu sut i ddadansoddi'n rhesymegol a phwyllog. Mae angen i ni fod yn ymwybodol o ba mor ddibynadwy yw'r geiriau rydym yn eu darllen a’u clywed. Ble allwn ni fynd i gael gwybodaeth annibynnol a dibynadwy ar y we? Pa gwestiynau ddylen ni fel ymchwilwyr ifanc fod yn eu holi? Beth yw ffynhonnell gynradd ac eilradd? A beth yn y byd yw newyddion ffug? Dyma rai o’r cwestiynau sy’n cael eu hateb wrth i ni bori drwy’r gyfrol ddefnyddiol hon sy’n hawdd iawn ei darllen, yn llawn delweddau lliwgar, ac sy’n cynnwys gwybodaeth newydd a difyr ar bob tudalen. Roeddwn i'n arbennig o hoff o'r rhan 'Geiriau i'w cofio', gan fod diffiniadau cryno a dealladwy ar gyfer y termau sy'n codi yn y testun ynddi, ac mae'r canllaw 'Cadw'n ddiogel ar-lein' yn berthnasol i bawb o bob oed. Mae yma weithgareddau i ti gael eu gwneud dy hun hefyd, o greu ffeil o ffeithiau am droseddau, i greu ffeithluniau, ac i ddefnyddio dy sgiliau ymchwil i ddod o hyd i atebion i gwestiynau go iawn. Sut all y geiriau rwyt ti’n eu hysgrifennu ddylanwadu ar bobl eraill? Pa fath o eiriau sy’n tynnu dy sylw di a pham? Mae un peth yn sicr – os wyt ti eisiau bod yn ymchwilydd, mi fyddi di wrth dy fodd â’r gyfrol hon. Cer ati i ddarganfod yr atebion i gyd a meddwl drosot dy hun, a phob lwc gyda’r ymchwilio!»
Hawys Roberts @ www.gwales.com
CRITICAL LITERACY SKILLS FOR ALL! We live in an information jungle! Join us to find your way through it with essential critical literacy skills. From spotting fake news to solving mysteries and investigating disasters, you will be able to THINK FOR YOURSELF and QUESTION EVERYTHING! Les mer
Logg inn for å se din bonus
Detaljer
- Forlag
- Rily Publications Ltd
- Innbinding
- Paperback
- Språk
- Walisisk
- Sider
- 36
- ISBN
- 9781804162415
- Utgivelsesår
- 2022
- Format
- 21 x 15 cm
Anmeldelser