Min side Kundeservice Bli medlem

Treiglo

«Mae'r gyfrol 'Treiglo' yn mynd a ni ar daith bywyd Gwilym Lewis o'r crud i'r bedd, yn myfyrio ar yr elfen anorfod o drawsffurfio cyson sy'n digwydd yn ystod taith oes. Treiglad amser sy'n ganolog i'r gyfrol hon sy'n ymdrin a galar mewn ffordd ddychmygus, amrwd a chwareus. Er bod iaith, pobl a pherthynas yn trawsffurfio eu hunain, y treiglad mwyaf yw marwolaeth, ac mae’r gyfrol yn dangos y newidiadau bychain mewn oes o berthynas rhwng tad a merch sy’n rhan o’r trawsnewid olaf wrth iddi hi ei wylio’n marw.»

Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas

Gwyneth Lewis's new volume of poems is full of wit, intensity and satire, as she reflects on the special relationship between a daughter and her father. Les mer

167,-
Innbundet
Usikker levering*
*Vi bestiller varen fra forlag i utlandet. Dersom varen finnes, sender vi den så snart vi får den til lager

Logg inn for å se din bonus

Gwyneth Lewis's new volume of poems is full of wit, intensity and satire, as she reflects on the special relationship between a daughter and her father.

Detaljer

Forlag
Cyhoeddiadau Barddas
Innbinding
Innbundet
Språk
Walisisk
Sider
72
ISBN
9781906396947
Utgivelsesår
2017

Anmeldelser

«Mae'r gyfrol 'Treiglo' yn mynd a ni ar daith bywyd Gwilym Lewis o'r crud i'r bedd, yn myfyrio ar yr elfen anorfod o drawsffurfio cyson sy'n digwydd yn ystod taith oes. Treiglad amser sy'n ganolog i'r gyfrol hon sy'n ymdrin a galar mewn ffordd ddychmygus, amrwd a chwareus. Er bod iaith, pobl a pherthynas yn trawsffurfio eu hunain, y treiglad mwyaf yw marwolaeth, ac mae’r gyfrol yn dangos y newidiadau bychain mewn oes o berthynas rhwng tad a merch sy’n rhan o’r trawsnewid olaf wrth iddi hi ei wylio’n marw.»

Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas

«Mae unrhyw gyfrol o farddoniaeth o law Gwyneth Lewis yn ddigwyddiad o bwys. A hynny am y gwyddoch y bydd y cerddi hyn yn wahanol iawn i unrhyw gerddi eraill a ddarllenwch yn Gymraeg. Bu’r ffaith iddi ganolbwyntio ar y gair ‘ treiglo’ yn ddifyr ac yn sicr yn hergwd i’r puryddion iaith na welant tu hwnt i dreigladau gramadegol. Achos y mae yna, yn y gyfrol hon, arweddau amryfal o edrych ar dreiglo a phob un yn ymestyn ein dealltwriaeth o’r hyn a olyga, yn enwedig y ‘treiglo’ olaf hwnnw o farwolaeth. Cyfrol bersonol iawn yw’r gyfrol a’r cerddi yn alarus ar adegau ond yn mynegi, fel y dylai pob marwnad, fawrhad o einioes wedi ei fyw mewn modd cyfoethog. Mae cymaint o gerddi yn rhai sydd yn aros yn y cof, fel ‘ Cerddoriaeth y Meistri’ lle mae’r tad yn mynegi ei gariad at gerddoriaeth gan holi’r teulu, a’r cyweiriau gwahanol yn rhoi cliw i’r darllenydd. Ceir elfen o ddigrifwch wrth i ni ddod i adnabod cwyrcs y gwahanol gyfansoddwyr cyn y colyn tua’r diwedd wrth iddyn nhw erfyn ‘iddo ddiweddglo/ Yn arddull Bach/ llawn ffydd a rhesymeg. Bach, noddfa hawdd ei chael i’m bach’. Anodd yw dewis a dethol cerddi penodol sy’n cyffwrdd â’r darllenydd am fod y gyfrol ar ei hyd yn ymgais at ail-fyw mabinogi y dyn arbennig hwnnw a fu’n dad iddi. Cynnwys ei chwaer hefyd wrth iddynt gofio gyda’i gilydd am ei gariad, boed hynny drwy’r pethau symlaf oll fel ‘pan olchai Dad ein gwallt’, a hynny ‘Â Vosene, y sawr fel bendith’. A! Gallaf innau gofio yr union weithred honno o ddwylo tyner fy nhad innau. Felly, cerddi sy’n cerdded i lawr meingefn y darllenydd yw’r rhain, yn gwynto o asbri ieuenctid a henaint, o alar a hiraeth melys. Dangosodd y cerddi fel yr oedd modd, ie, ‘treiglo’ rhwng bychanfyd y claf a’r byd mwy anfeidrol ei ddyhead. Nodir pob manylyn gydag amseriadau ‘gwylad’ yn cael eu nodi yn glinigol bron, a hynny yn wrthbwynt yn erbyn y byd delweddol gyfoethog y mae’r bardd yn ei weld, boed yn aderyn du mewn parc neu ‘piod/ Yn cecru yn y coed’. Ceir y math o ddeialogau a gaiff pob un gydag anwylyn wedi iddo adael y byd hwn. Ond yn gymwys â’r siarad, mae atgofion tyner a dwys am weithredoedd cariadus ac angenrheidiol y sawl sy’n agosáu at ddarfod, fel y gerdd am ‘Min’ wrth iddi eillio ei thad a’r ‘Sŵn statig wrth y dur/ Gyfrif pob blewyn a’i fedi’. Dyma gyfrol sydd yn deyrnged ragorol i dad annwyl a doeth. Ond mae’n drysorfa hefyd i ddarllenwyr o bob oed, gan ddangos fel y gall barddoniaeth wneud gwahaniaeth arhosol i fywydau y rhai byw.»

Menna Elfyn @ www.gwales.com

Medlemmers vurdering

Oppdag mer

Bøker som ligner på Treiglo:

Se flere

Logg inn

Ikke medlem ennå? Registrer deg her

Glemt medlemsnummer/passord?

Handlekurv