Anti Afiach
«Mae nofelau David Walliams fel ffisig. O neiniau dewr yn dwyn tlysau'r Frenhines i ddeintyddion dieflig, mae ei lyfrau wastad yn gwneud i ti chwerthin yn uchel. Ond er mor ddigrif a gwallgof ydi'r digwyddiadau ynddynt, mae rhywbeth yn hynod gyfarwydd, cynnes a theimladwy ym mhob un o'r llyfrau hyn, a dydi Anti Afiach ddim yn eithriad. Mae'r eneth fach, Swyn, sy'n byw mewn plasty crand, yn deffro un bore, ac yn cael newyddion drwg gan ei modryb sinistr, Anti Alwen. Heb ddatgelu gormod o'r stori, dywed Alwen wrth ei nith ei bod hi wedi bod yn cysgu am amser maith yn dilyn damwain car, a bod ei rhieni wedi diflannu! Wrth i Swyn druan fynd at wraidd y mater a phethau'n bell o daro deuddeg, mae hi'n darganfod sawl ffaith syfrdanol sy'n siŵr o ddod â gwen i'r wyneb a dagrau i'r llygaid yr un pryd. Mae hon yn antur o'r dechrau i'r diwedd, ac mae stamp David Walliams arni drwyddi draw – y chwerthin, y cyffro, y cymeriadau hoffus a'r rhai sydd ddim mor hoffus, y swynau a'r bustachu, ond hefyd y rhannau teimladwy ac annwyl. Mae'r stori yn llawn troeon trwstan annisgwyl, a thrwy'r cyfan rydyn ni'n ysu i'r cymeriadau ymgyrraedd at y gwir, gan gynnwys Wagner y dylluan glyfar! Fel yn y llyfrau eraill, mae lluniau penigamp Tony Ross yn ychwanegu at y cyffro a'r hiwmor. Dwi wedi darllen a mwynhau pob addasiad Cymraeg o lyfrau'r awdur anhygoel hwn. Nid yw'n annhebyg i Roald Dahl yn ei dalent dweud stori dda, ac mae'r addasiadau i gyd yn gwneud cyfiawnder â'i ddawn ac yn siŵr o ddifyrru'r darllenwyr iau.»
Llinos Griffin @ www.gwales.com
Addasiad Manon Steffan Ros o Awful Auntie gan David Walliams. Ein addasiad diweddaraf yn ein cyfres o lyfrau poblogaidd gan yr awdur David Walliams. Llyfr anturus a doniol am Swyn Plas y Sarnau, merch sydd ar fin etifeddu'r enwog Neuadd Sarnau. Les mer
Logg inn for å se din bonus
Detaljer
- Forlag
- Atebol
- Innbinding
- Paperback
- Språk
- Walisisk
- Sider
- 408
- ISBN
- 9781910574683
- Utgivelsesår
- 2017
- Format
- 20 x 13 cm
Anmeldelser